Eifion Davies 1959 - 2022

Eifion Davies 1959 - 2022

Cafodd y gymuned gyfan sioc enfawr wrth glywed ̭â thristwch am farwolaeth annisgwyl Eifion Davies, gynt o fferm Penrhiw, Llanddarog. Bu farw yn fuan iawn wedi derbyn llawdriniaeth ar y galon. Symudwyd y teulu o fferm Pantybedw, Nantgaredig i fferm Penrhiw a Eifion ond  yn 4 oed.  Er colli ei dad Gwyn yn ifanc, gyda chefnogaeth a charedigrwydd ei deulu, ffrindiau, cymdogion a’r gymuned, mi ddaeth y cyfle I Eifion wireddi ei freuddwydion a ffermio’n llwyddiannus ym Mhenrhiw ar hyd ei yrfa. Ffermio mewn partneriaeth yn gyntaf gyda’i fam annwyl y diweddar Freda, ac yna wedi priodi yn 1987 gyda’i wraig Kim ac yn hwyrach ei ferch Rebeca.

The whole community were shocked and saddened by the unexpected death of Eifion Davies formerly of Penrhiw Farm, Llanddarog. He passed away shortly after receiving open heart surgery in August of 2022. He moved to Penrhiw from Pantybedw, Nantgaredig with the family at the age of 4. Although sadly losing his father Gwyn, at a very young age, with the help and support of his family, friends, neighbours and the community, Eifion realised his dream of successfully farming in Penrhiw throughout his working life. Initially farming in partnership with his dearest mother the late Freda, and later getting married in 1987, farming with his wife Kim and daughter Rebeca.

Ffermwr odro medrus, gweithgar a chydwybodol bu Eifion erioed yn rhoi pwyslais arbennig ar lesiant yr anifeiliaid a gwella’r tir drwy gydol ei oes.   

Yn gyn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanddarog lle fuodd ef yn Gadeirydd ac yn drysorydd, wnaeth Eifion feithrin perthynas hir oes rhan helaith o’i ffrindiau ar draws y Sir, ac yno wnaeth gwrdd a’I wraig Kim. Yn berson hawddgar, sownd, ddiymhongar ond hefyd gyda ochr drygionus a wastad gwen ar ei wyneb, roedd ei ffrindiau yn ei addoli ac yn ei ystyried fel cyfaill cadarn arbennig. Wedi ymddeol I Morawel, Llanddarog yn 2021 gyda’i gymeriad naturiol yn un gymdeithasgar a thynnes, mwynhaeodd Eifion ei amser yn cymysgu gyda’r pentrefwyr gan sgyrsio a thynnu coes.

Bu Eifion yn barod ei gymwynas, yn ddibynadwy ac yn gefnogol i’r y gymuned gan gynnwys yr Eglwys, Cor Llanddarog a’r cylch, yr ysgol, Neuadd y Pentref, a Sioe Amaethyddol Llanddarog a’r cylch a Sioe Genedlaethol Cymru. Braint oedd hi i Sioe Llanddarog gael Eifion a Kim fel llywyddion yn 2014. Yn dilyn ei dad a oedd yn gyn is-gadeirydd y Sioe, roedd Eifion yn gefnogwr brwd a ffyddlon i’r gymdeithas mewn amryw o ffyrdd gan gynnwys stewardio, benthyg peiriannau ac offer, rhoi ei amser prin a dangos haelioni pob amser yn ystod achlysuron elusennol.

Yn wr bonheddig yn wir ystyr y gair, diolchwn iddo am gyfoethoci bywyd pawb roedd o’i amgylch. Bu Eifion yn gyfaill ffyddlon, ddidwyll a chadarn i lawer ac enfawr yw’r wagle ar ei ol.
Cydymdeimlwn â Kim, Rebeca a holl aelodau’r teulu yn eu colled.



An accomplished, hard working and conscientious dairy farmer, Eifion ensured priority was given to animal welfare, land management and progression throughout his farming life.

A former member o Llanddarog Young Farmers Club where he held position of chairperson and treasurer, Eifion developed the vast majority of his lifelong friendships county wide within the movement and he met his wife Kim as a fellow member of Llanddarog club. A pleasant, dependable and modest person with a mischievous side, he most often had a smile to share and his friends thought the world of him. Eifion and Kim moved to Morawel, Llanddarog in 2021 and with a sociable and warm personality, Eifion settled in extremely well and enjoyed spending time with his fellow villagers, much of which revolved around helping within the community, chatting and pulling each other’s leg.

Being extremely dependable, Eifion’s work in the community was significant with contribution to the Church, the choir, the school, the hall, the Royal Welsh Show as well as Llanddarog and District show where it was truly our privilege to have Eifion and Kim as Show Presidents for 2014. Following his father who was former vice chairman of the show, Eifion was a staunch supporter in many ways including stewarding, providing machinery and equipment, giving of his precious time and showing his unwavering generosity during all fundraising events that were organised over the years.

Being a true gentleman, we thank Eifion for enriching the lives of those around him and for being a faithful, genuine and loyal friend who in his absence has left a gaping void.

We extend our deepest sympathies to Kim, Rebeca and the entire family in their sad loss.